Hoffai’r Atlas Llenyddol eich gwahodd i lansiad  arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig yn y Senedd.

Yn y digwyddiad hwn, bydd yr Athro Jon Anderson (Prifysgol Caerdydd) yn cyflwyno Atlas Llenyddol, prosiect a oedd yn gyfrifol am greu mapiau digidol arloesol o’r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymreig cyfrwng Saesneg a’u lleoliadau unigryw yng Nghymru (www.literaryatlas.wales). Cafodd yr artistiaid eu comisiynu i ail-ddehongli ‘daearyddiaeth lenyddol’ cyfoethog deuddeg o’r llyfrau hyn ar gyfer yr arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig. Y canlyniad oedd casgliad o weithiau celf newydd a chyffrous ar amrywiaeth o ffurfiau, o gartograffeg gyfoes, i ffotograffiaeth, seinweddau a ffilm. Hefyd, bydd yr arlunydd Seán Vicary yn cyflwyno ei ffilm ei hun, ‘Sitelines’, sy’n ymateb i ddaearyddiaeth lenyddol nofel Alan Garner The Owl Service (1966). Bydd lluniaeth ar gael.

E-bostiwch literaryatlas@gmail.com i gofestru eich diddordeb.