Fel rhan o’r gyfres Salon Llenyddol, mae’r Sefydliad Diwylliannol a Gwasg Menywod Cymru Honno yn eich gwahodd i sgwrs dreiddiol rhwng yr awdur newydd Kathy Biggs a Dr Gemma June Howell. Ymunwch â ni i ddarganfod yr hud a geir yn nhudalennau nofel ddiweddaraf Kathy Biggs, Scrap. Mae’r stori afaelgar hon a leolir yn Abertawe yn eich tywys ar daith o wydnwch, goresgyn heriau a nerth diwyro’r ysbryd dynol. Byddwch yn barod i gael eich trochi ym myd cymeriadau tra lliwgar, emosiynau ingol a thwf personol sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cyffredin. Gyda Dr Elaine Canning yn y Gadair, gyda’i gilydd byddant yn archwilio themâu cywrain a chymeriadau’r nofel a’r hyn a ysbrydolodd Scrap. Cewch gipolwg unigryw ar broses greadigol Biggs, yr heriau roedd yn eu hwynebu a’r dylanwadau llenyddol sydd wedi llywio ei gwaith arbennig.

Daw Kathy Biggs yn wreiddiol o Swydd Gaerefrog. Cafodd swydd dros yr haf yng nghanolbarth Cymru ym 1985 ac ni wnaeth byth adael. Mae ganddi ddau blentyn sydd wedi tyfu ac mae’n byw gyda’i gŵr. Ar ôl astudio nifer o gyrsiau Ysgrifennu Creadigol sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, darganfu ddawn am ysgrifennu. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd ei nofel gyntaf The Luck. Scrap yw ei hail deitl a gyhoeddwyd gan Honno.

Archebwch eich tocynnau AM DDIM yma: bit.ly/KBScrap

*Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg