Ar y cwrs hwn byddwn yn edrych ar y ffiniau rhwng barddoniaeth a geiriau caneuon. Drwy weithdai grŵp a sesiynau un-i-un, byddwn yn edrych ar sut y gall beirdd a chyfansoddwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan drafod dylanwadau alaw a rhythm. Byddwn wedyn yn troi cerddi yn eiriau caneuon, a geiriau caneuon yn gerddi, i ddangos sut y gall geiriau ymddwyn yn wahanol ar y dudalen ac wrth eu canu. Mae hwn yn gwrs i feirdd, cyfansoddwyr caneuon a cherddorion, a bydd yn gyfle i gydweithio â phobl eraill sy’n ymddiddori mewn amrywiaeth o arddulliau, steiliau a ffurfiau.

Efallai’ch bod chi’n fardd sy’n awyddus i ysgrifennu’n fwy telynegol, neu’n gyfansoddwr caneuon sydd am ehangu gorwelion eich geiriau. Ni waeth pa un, dyma gyfle i dorri tir newydd ac i roi cynnig ar ffyrdd newydd o fwrw ati mewn cwmni cyfeillgar, cefnogol. Ac os ydych chi’n digwydd canu offeryn sy’n ffitio i’ch cês, i’ch car, i’ch bws neu gerbyd trên, dewch â hwnnw gyda chi!