Ymunwch â Tegwen Bruce-Deans, Nia Morais, Manon Awst a Llio Maddocks ar gyfer sgwrs banel i drafod y lleisiau sy’n cyfansoddi barddoniaeth yn y Gymru gyfoes. Bydd cyfle i ddathlu, ond hefyd cyfle i drafod os oes clwydi neu rwystrau sy’n atal lleisiau o bob math i ymuno â’r canon creu cerddi – a chanu caeth yn benodol.

Yn dilyn y drafodaeth banel, byddwn yn agor y llawr i gwestiynau neu sylwadau gan y gynulleidfa, ac yn edrych os oes mwy allwn ni ei wneud i hybu lleisiau amrywiol yn y byd barddol.

 

Cofrestru: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN__IfsPRfsR0qSG0jcA4Fj1g