Ar y cwrs hwn byddwn yn archwilio rôl y bardd fel tyst mewn cymdeithas. Gan ddiffinio “barddoniaeth tyst” fel term celfyddydol, meddai Carolyn Forche, “poem’s witness is not a recounting, is not mimetic narrative, is not political confessionalism, and it is not simply an act of memory.”

Gall bod yn dyst fod yn weithred moesegol neu wleidyddol. Â ninnau’n byw mewn oes o anrhefn, caledi a thlodi ochr yn ochr â hiliaeth a senoffobia dros y byd – sut mae dal yr amseroedd cythryblus hyn mewn barddoniaeth? Beth yw nodweddion llenyddiaeth tyst? Yn ystod y cwrs hwn byddwn yn rhoi amser i ymdrochi mewn ysgrifennu barddoniaeth: yn mwynhau amser i ysgrifennu’n unigol, yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp a sesiynau i drafod myrdd o feirdd â fu’n dystion yn cynnwys Anna Akhmatova, Dunya Mikhail, Czeslaw Milosz a Gwendolyn Brooks, ymysg eraill.