Ymchwiliad i’r hyn a wyddoch yw barddoniaeth, nid mynegiant ohono” – Mark Doty

Drwy weithdai, trafodaethau, perfformiadau a mwy, bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn ehangu gorwelion ein hysgrifennu. Gan ddefnyddio themâu cyfarwydd ac enghreifftiau o’n bywydau ein hunain, byddwn yn edrych ar beth sy’n digwydd wrth gymylu’r ffin rhwng hunangofiant a ffuglen. Pa straeon eraill a allai ddod i’r fei pe baem yn rhywun arall – ac a allwn ni ddefnyddio iaith i newid ein realiti? A all gemau geiriau ein helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o olrhain ein meddyliau, gan greu ffurfiau newydd o farddoniaeth? Bydd yr wythnos hon o dechnegau chwareus ac arloesol yn eich dwyn chi a’ch barddoniaeth ar daith newydd a gwreiddiol. Byddwch yn gadael gyda cherddi newydd, annisgwyl, ynghyd â’r egni i ysgrifennu mwy.