‘Behind the Scenes’ Angela V. John mewn sgwrsio gyda Professor Dai Smith
‘Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton’ gan Angela V. John
Bywgraffiad o bwys am Philip Burton, mentor Richard Burton, a gyhoeddir 100 mlynedd ar ôl genedigaeth yr actor ac i gyd-fynd â’r ffilm sinema nodedig, ‘Mr
Burton’.
“A remarkable evocation of a life” – Lloyd Trott, Academy Dramaturg, RADA
Roedd Philip Burton (1904-95) gystal â thad i Richard Burton. Roedd yn awdur, yn athro ac yn gynhyrchydd talentog a welodd botensial ei brotégé ifanc gan ei helpu i’w lansio ei hun o Bort Talbot i lwyfannau Llundain ac ymlaen i Hollywood lle daeth yn un o actorion mwyaf cyfareddol y sgrîn fawr. Yn yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf hon o Philip Burton, ysgolfeistr, mentor, dramodydd, actor a chynhyrchydd gyda’r BBC, a aned mewn amgylchiadau dirodres yng nghymoedd de Cymru, mae’r bywgraffydd o fri, Angela V John, yn dod â’r dyn allan o’r cysgodion a’i roi yn y sbotolau.
Cyhoeddir ‘Behind the Scenes’ i gyd-fynd â’r cyffro a fydd yn gysylltiedig â rhyddhau ‘Mr Burton’, y ffilm gydag un o’r actorion mwyaf disglair, Toby Jones, yn y brif rôl. ‘Behind the Scenes’ yw hanes dyn arbennig, mae’n dangos pŵer addysg i ddyrchafu, a sut gall mentora feithrin addewid mor annisgwyl mewn eraill.
Gyda’i gilydd creodd Richard a Philip symbiosis anhygoel. Camodd Philip i’r adwy ar adegau allweddol yng ngyrfa Richard; sicrhaodd berfformiadau penigamp ar y llwyfan yn ‘Coriolanus’, ‘Hamlet’ a ‘Camelot’. Rydym yn darganfod hefyd sut gwnaeth Philip dorri tir newydd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer cyfrwng newydd y teledu. Symudodd Philip Burton i’r Unol Daleithiau yn y 1950au ac ar ôl ymhél rywfaint â’r diwydiant ffilmiau a gweithio fel cyfarwyddwr theatr – gan gael ei adnabod fel “y brêns tu ôl i’r llenni ar Broadway” – cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr cyntaf Academi Cerdd a Drama America yn Efrog Newydd. Daeth Philip yn ddinesydd o America a theithiodd ledled yr Unol Daleithiau gan ddarlithio am Shakespeare a rhoi perfformiadau aruthrol o’i waith; bu farw yn Fflorida ym 1995.
Meddai Angela: “Mae ymchwilio i fywyd yr unigolyn ysbrydoledig hwn ac ysgrifennu amdano wedi bod yn gyffrous ac yn agoriad llygad. Cafodd ei angerdd am y theatr effaith drawsnewidiol ar gynifer o bobl ifanc ym Mhrydain ac America.
Am yr awdur…
Mae Angela V John wedi ysgrifennu mwy na dwsin o lyfrau gan gynnwys ‘Elizabeth Robins: Staging a Life 1862-1952’ am yr actores a aned yn America a ‘The Actors’ Crucible: Port Talbot and the Making of Burton, Hopkins, Sheen and All the Others’. Cafodd Angela ei magu ym Mhort Talbot a chyfarfu â Richard Burton am y tro cyntaf ym 1969. Bu gynt yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Greenwich ac ar hyn o bryd, mae’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. Hi yw llywydd ‘Llafur’, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru a Chymdeithas Theatr Gerdd Port Talbot.
Mewn partneriaeth â Parthian Books a Cover to Cover.