Yn Birdsplaining: A Natural History, mae Jasmine Donahaye, enillydd yng Ngwobrau New Welsh Writing 2021, yn ceisio teimlo’n ‘hynod fyw’, gan ddeall pethau ar ei thelerau ei hun a dadwneud hen wersi am sut i ymddwyn. Yma, mae’n wynebu o’r diwedd: ofn trais a bradychiad y corff, ac yn mentro o’r diwedd i gael pethau’n anghywir. Gan grwydro ar draws Cymru, yr Alban a Chaliffornia, mae’n canolbwyntio heb ymddiheuro ar naws unigryw profiad menywod o natur a’r cyfyngiadau a osodir arno. Weithiau’n bigog, bob amser yn foesegol, mae Birdsplaining yn gwrthdroi ffyrdd cyfarwydd o weld byd natur.“Ffres, modern, fforensig” – Gwyneth Lewis

Gwybodaeth am yr awdur

Mae gwaith Jasmine Donahaye wedi ymddangos yn y New York Times a The Guardian, a chafodd ei rhaglen ddogfen, Statue No 1, ei darlledu ar BBC Radio 4. Mae ei llyfrau’n cynnwys yr hunangofiant, Losing Israel (2015), enillydd y categori ffeithiol yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn; bywgraffiad o’r awdur Lily Tobias, The Greatest Need (2015), sail i O Ystalyfera i Israel, a ddarlledwyd gan S4C; yr astudiaeth ddiwylliannol Whose People? Wales, Israel, Palestine (2012), a dau gasgliad o farddoniaeth: Misappropriations (2006) a Self-Portrait as Ruth (2009). Mae hi’n Athro rhan-amser Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Enillodd Jasmine Wobr New Welsh Writing yn 2021 gyda detholiad o Birdsplaining.