Crynodeb o Lyfr
Pam byw un bywyd pan allech chi fyw mil?

Mae Sol Andrews yn gweithio i gwmni newydd yn San Diego sy’n gweithio yn y fasnach atgofion danddaearol – sy’n cynaeafu atgofion gan roddwyr ym Mecsico ac yn eu mewnblannu mewn Americanwyr. Etifeddodd y swydd gan ei frawd, y mae ei hunanladdiad diweddar wedi gadael gwagle enfawr yn ei fywyd.

Client newydd Sol yw Mr Bray—hen, cyfoethog, digon o gysylltiadau, dall. Mae Mr Bray wedi clywed sïon am fynwent ddirgel yn Tijuana lle digwydd gwyrthiau, rhywle a allai adfer ei olwg. Mae wedi dod i wybod am lyfrgellydd ifanc sy’n adnabod y fynwent – Nora Rincón – ond mae ei lleoliad wedi’i gladdu mewn atgof plentyndod.

Mae tasg Sol yn un syml – dod o hyd i Nora, meithrin perthynas, echdynnu ei chof. Ei wobr: $100,000. Serch hynny, pan fydd Sol yn dechrau dod yn gyfaill i Nora, mae’n darganfod bod ganddi hi’r holl rinweddau nad oes ganddo ef – doniol, optimistaidd, deniadol – mae’n cael ei ddenu ati. Mae hi’n ei helpu i brosesu ei alar a’i ailgyflwyno i fywyd eto. Ond wrth iddynt agosáu, mae Sol yn dechrau deall pwy yw Mr Bray a’r hyn y mae’n gallu ei wneud – ac mae’n gwybod ei bod hi’n rhy hwyr i dynnu’n ôl o’u cytundeb…

Am yr awdwr:
Awdur yn San Diego, Califfornia yw Edward Matthews. Enillodd ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe yn 2020. Mae wedi darllen a chyhoeddi’n helaeth ar y pwnc ailddychmygu lle ar hyd ffiniau UDA/Mecsico. Border Memories yw ei nofel gyntaf.