Dewch i fore Sadwrn llawn hwyl wedi’i ysbrydoli gan luniau, gwaith ysgrifenedig a recordiadau gan fenywod nodedig ar draws de Cymru ddiwydiannol. Cewch gyfle i wylio cyhwfan baner newydd ar gyfer Menywod Blaenllaw Cymru a grëwyd gan blant ysgol ac aelodau’r cyhoedd sy’n seiliedig ar storïau menywod. Gyda gweithgareddau ymarferol i’r teulu cyfan a chyfle i ddweud wrthym am y menywod sy’n eich ysbrydoli chi, mae croeso i bawb ymuno â ni wrth i ni ddathlu.

Partneriaid: Llyfrgell Glowyr De Cymru, gweithdy Dove, Banwen, Oriel Gelf Glynn Vivian, Archifau Richard Burton.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ŵyl Bod yn Ddynol, sef yr unig ŵyl genedlaethol ym maes y Dyniaethau yn y DU, a gynhelir rhwng 10 a 19 Tachwedd. Fe’i harweinir gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.beinghumanfestival.org.