
Breakthrough Welsh Women – Workshop 1
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio bywydau menywod blaenllaw ar draws de Cymru ddiwydiannol sy’n rhan o’n Casgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe. Dewch i un o’n gweithdai lle byddwch yn darganfod lluniau, gwaith ysgrifenedig a recordiadau gan fenywod nodedig a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton. Helpwch ni i ail-greu storïau’r menywod hyn a dylunio paneli ar gyfer baner newydd ar gyfer Menywod Blaenllaw Cymru wrth i ni ddod yn nes at ddathlu pum deg o flynyddoedd o Lyfrgell Glowyr De Cymru. Croeso i Bawb!
Partneriaid: Llyfrgell Glowyr De Cymru, gweithdy Dove, Banwen, Oriel Gelf Glynn Vivian, Archifau Richard Burton.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ŵyl Bod yn Ddynol, sef yr unig ŵyl genedlaethol ym maes y Dyniaethau yn y DU, a gynhelir rhwng 10 a 19 Tachwedd. Fe’i harweinir gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.beinghumanfestival.org.
Share with friends