Penillion syml ydi Hen Benillion sy’n trin a thrafod cariad, marwolaeth, natur, pobl ac ati. Dyma gyfle i greu Hen Benillion Newydd mewn 3 x sesiwn ar-lein dan arweiniad Mei Mac, ar y nosweithiau Mawrth canlynol
· 06.10.26
· 03.11.26
· 01.12.26
rhwng 8 -9 o’r gloch
Bydd Mei yn trafod Hen Benillion a rhywfaint o farddoniaeth ardal y llechi gyda’r nod o gyd-sgwennu Hen Benillion newydd sy’n edrych ar safle’r chwareli yn ein cymunedau ni heddiw.
Mae cofrestru’n hanfodol drwy Eventbrite Llechi Cymru oherwydd llefydd cyfyngedig, a gofynnir i bawb fynychu’r gyfres gyfan, os gwelwch yn dda.
https://www.eventbrite.com/e/2000163983317?aff=oddtdtcreator