Mae pob awdur yn datblygu ffordd ei hun o weithio, nid oes un ffordd pendant o syniad cychwynnol i ddarn gorffenedig. Yn y sgwrs hon, bydd awduron blaenllaw o Gymru yn rhannu cipolwg gonest ar eu proses greadigol, gan archwilio o ble mae syniadau’n dod, sut maent yn mynd ati i ymchwilio a drafftio, beth sy’n digwydd pan maen nhw’n colli momentwm, a sut maent yn gwybod pryd mae darn wedi’i orffen. 

Gan ddod ag awduron yn gweithio mewn sawl genre gwahanol at ei gilydd, bydd y sesiwn yn tynnu sylw at y nifer o ffyrdd gall arfer ysgrifennu esblygu dros amser, p’un a ydych yn cydbwyso ysgrifennu â gwaith arall, ymateb i gomisiynau, neu’n symud rhwng nofelau, barddoniaeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Trwy drafodaeth wedi’i  siapio gan gwestiynau gan y gynulleidfa, byddwchyn derbyn cyngor ymarferol, ac yn gadael gyda dulliau newydd y gallwch eu defnyddio ym mhrosesau creadigol eich hunain. Bydd y sesiwn yn dathlu’r ehangder ac amrywiaeth o dalent creadigol cyfoes i’w ganfod yng Nghymru wrth atgyfnerthu bod proses pob awdur yn unigryw. 

Siaradwyr: Alex Wharton, Anthony Shapland, Rachel Dawson

Cliciwch yma i archebu eich lle!