
Caerdydd Creadigol: Paned i Ysbrydoli
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, o’r enw ‘Paned i Ysbrydoli’.
Dyma gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p’un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs ‘TED-talk’, ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae’r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.