Fe’ch gwahoddwn chi’n gynnes iawn i ddigwyddiad sy’n rhannu, a dathlu, gwaith ein prosiect cenedlaethol celf, iechyd a lles Ar Y Dibyn ar Fai 27 ar 14:00 a 19:00 yn Galeri, Caernarfon.

Mae Ar y Dibyn yn brosiect sy’n gyfres o sesiynau creadigol awr a hanner wythnosol sy’n digwydd wyneb yn wyneb ac yn ddigidol ar draws Cymru lle mae artistiaid gyda phrofiad bywyd yn cefnogi‘r rheiny ohonom sy’n byw gyda dibyniaeth o bob math i weld posibiladau’r dyfodol.

Mae fwy o wybodaeth yma: Ar y Dibyn

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn drwy gofrestru yma:-

Digwyddiad 14:00 Mai 27

Digwyddiad 19:00 Mai 27

Ond gallwch gyfrannu at waith ein cwmni, sy’n cynnwys prosiectau fel hyn: Cyfrannu yma

Rhaglen (awr a hanner o hyd)

Dangosiad ffilm, perfformiad byr, arddangosfa a sgwrs banel.

Partneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac Adra (Tai) gyda’r artist arweiniol Iola Ynyr yw hwn.

Mae’r prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP), a gyllidir gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta)

Gyda chefnogaeth Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru a Galeri Caernarfon.