Clwb Cynganeddu i rai sydd â phrofiad cynganeddu dan arweinaid Rhys Iorwerth, Iwan Rhys ac Ifan Prys.

Bu’r dosbarthiadau yn boblogaidd iawn dros y ddwy flynedd diwethaf ac ar gyfer y flwyddyn newydd dyma gyfle i ddatblygu sgiliau yng nghmni eneidiau o’r un anian. Bydd y sesiynau yn rhai unigol yn hytrach na chwrs i’w dilyn, gyda digon o gyfle i ymarfer , trafod a mwynhau dros beint neu baned.

Bydd y clwb yn cyfarfod bob pythefnos (ag eithrio yn ystod gwyliau ysgol) am sesiynau i’w cynnal yn stafell C1 ac yn y bar ar y dyddiadau isod:

19:30 – Dydd Mawrth, 14 Ionawr

 

19:30 – Dydd Mawrth, 28 Ionawr

 

19:30 – Dydd Mawrth, 11 Chwefror

 

19:30 – Dydd Mawrth, 25 Chwefror

 

19:30 – Dydd Mawrth, 10 Mawrth

 

19:30 – Dydd Mawrth, 21 Ebrill

Mwy o wybodaeth yma.