Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau eraill yn edrych ar destunau Cymraeg o fri, byddwn yn dod â phanel o arbenigwyr ynghyd y tro hwn i drafod y ffilm eiconig Gymraeg, Hedd Wyn.

Mae’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael enwebiad am Oscar nôl yn 1994 yn dilyn hanes y bardd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Panel llawn i’w gadarnhau ond bydd yn cynnwys:

Dr Gerwyn Wiliams

Gwen Ellis

Cadeirydd Dr Manon Wyn Williams

 

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu’n arbennig at rai sy’n astudio’r ffilm fel rhan o faes llafur CBAC, ond mae’n agored i bawb. Cofiwch am gynllun Ewch i Weld gan Gyngor Celfyddydau Cymru y gall ysgolion ei ddefnyddio i ariannu teithiau i weld digwyddiadau o ansawdd uchel, ewch i www.arts.wales am fanylion