Prynhawn hamddenol wedi’i gynnal gan Loophole Projects yn Oriel MOSTYN i lansio’r cyhoeddiad Come to Sunny Prestatyn, sy’n cynnwys gwaith celf yn ymwneud â’r gerdd Sunny Prestatyn a’i bardd Philip Larkin.

1pm – Sgwrsio gyda’r curadur

2pm – Sgwrs am Come to Sunny Prestatyn gan y curadur Nick Davies

3pm – Trafodaeth rhwng Nick Davies ac Arcade/Campfa ynghylch gweithgaredd dan arweiniad artistiaid

Sylwer: Yn debyg iawn i’r gerdd, gall y digwyddiad hwn gynnwys cynnwys heriol.