Mae’r cwrs preswyl hwn yn y Llyfrgell Gladstone hardd ym Mhenarlâg yn gyfle i gwrdd â’r athronydd a’r diwinydd Keith Ward, sy’n gofyn, “a all diwinyddiaeth gael ei hegluro bron yn gyfan gwbl mewn jôcs?’

Mae’r cwrs hwn yn ymgais i wneud yn union hynny, gan gynnig trafodaeth dyner a doniol am ffydd. Ond mae hefyd yn gipolwg ar sut y gwnaeth un person wella o ffwndamentaliaeth a dod o hyd i ysbrydolrwydd gwahanol, mwy cadarnhaol o fewn y ffydd Gristnogol sy’n gwneud synnwyr moesol a deallusol.

Mae pris y cwrs hwn yn cynnwys mynediad i Ddarlith Teyrnged John Shelby Spong ar ddydd Sadwrn 5ed Mawrth o 3pm tan 5pm.