Jeremy Deller mewn sgwrs gyda Alastair Laurence

Jeremy Deller yw’r artist tu ôl i rai o brosiectau mwyaf gwreiddiol a phryfoclyd y pum mlynedd ar hugain diwethaf. Maen nhw’n cynnwys “Acid Brass” gyda band glofa, ail-greu Brwydr Orgreave o Streic y Glowyr yn 1984, “We’re Here Because We’re Here“ i goffáu’r rhai a gollodd eu fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac Iggy Pop Life Class. Pan ofynnwyd iddo ar Desert Island Discs am ei eitem foethus, gofynnodd Jeremy am daith i fyny Dyffryn Llanthony! Enillodd Wobr Turner yn 2004.

Y gwneuthurwr ffilmiau, Alastair Laurence, sy’n curadu’r cyfresi hyn o sgyrsiau. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi gwneud ffilmiau ar John Betjemen, Philip Larkin a TS Eliot.

SWPER CYN SGWRS AR GAEL I LAWR YN CEGIN Y CAPEL. ARCHEBU YN HANFODOL 01873 736430

Tocynnau £10 ar gael yn The Art Shop & Chapel. Ffi i archebu arlein £1