
Sgyrsiau yn y Capel – Posy Simmonds
Posy Simmonds mewn sgwrs gyda Alastair Laurence
Awdur, darlunydd a chartwnydd papur newydd yw Posy Simmonds. Mewn gyrfa sy’n ymestyn dros 50 mlynedd, mae hi wedi gweithio’n bennaf ar gyfer The Guardian. Cafodd ei nofelau graffig, Gemma Bovery a Tamara Drewe, eu cyfresi yn y papur yn wreiddiol. Mae’r nofelau wedi’u cyfieithu i sawl iaith, ac mae’r ddwy wedi’u troi’n ffilmiau nodwedd – Tamara Drewe a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears. Mae hi hefyd yn awdur ac yn ddarlunydd llyfrau plant, gan gynnwys Fred, a ddaeth yn ffilm a gafodd ei henwebu am Oscar. Cassandra Darke yw ei nofel graffig ddiweddaraf.
Gwneuthurwr ffilmiau, Alastair Laurence, sy’n curadu’r gyfres hon o sgyrsiau. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi gwneud ffilmiau ar John Betjemen, Philip Larkin a TS Eliot.
Mae’r digwyddiad hwn yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru gydag asesiad risg wedi’i gwblhau a chamau rhesymol wedi’u cymryd i sicrhau diogelwch.