Hanesion gwerin, straeon tylwyth teg a chwedlau ein hynafiaid yw cerrig sylfaen pob stori sydd wedi’i hadrodd erioed, gan gynnwys dramâu, nofelau, barddoniaeth a sgriptiau ffilm. Mae’r hen chwedlau hyn yn dal i ysbrydoli beirdd, artistiaid, awduron a dramodwyr heddiw. Wedi’r cyfan, mae ein straeon traddodiadol – yr arswydus, yr hudolus, y teimladwy a’r dwys – yn diffinio profiadau pobl. Mae cryn fri o’r newydd ar adrodd straeon ar lafar, wrth i oedolion ymgynnull yn gyson i glywed a rhannu hanesion traddodiadol ym mhob cwr o’r wlad. Cwrs adrodd straeon ar lafar i ddechreuwyr yw hwn – ac i’r rheini sy’n dychwelyd at y grefft – ac mae’n gyfle i ddysgu sut i addasu a chyflwyno’r chwedlau a’r straeon gwerin sy’n rhan o’n hanfod ni fel pobl.