Creu bydoedd sain – Digwyddiad trafod drama sain
Dydd Llun 9fed o Fedi
6yp – 7:30yp
Am ddim, ar Zoom

Dewch i’n sesiwn holi-ac-ateb, lle byddwn yn trafod popeth sydd ynghlwm â dramau sain gydag awduron blaenllaw yn y maes. Sesiwn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) am ddim.

Drama sain yw un o’r arddulliau artistig mwyaf hyblyg – gall fynd â
chynulleidfaoedd i mewn i feddyliau rhywun, neu i’r lleuad. Gall fod yn hynod o bwerus yn realistig, hudol ac ymdrochol. Efallai eich bod yn gwrando ar ddramau sain ar y radio, ar bodlediad neu drwy systemau sain amrywiol.

Felly, sut mae sgwennu i ddrama sain yn wahanol i arddulliau eraill?
Beth yw’r rhyddid, a’r heriau? A sut mae llywio’r yrfa hon fel awdur?

Bydd y sesiwn yn ddwyieithog, gyda “breakout rooms” yn Gymraeg a Saesneg. Bydd cyfle i’r gunulleidfa i holi cwestiynau.

Yn yr ystafell iaith Gymraeg, bydd y sgwennwr Mari Izzard a’r cyfarwyddwr/ dramatwrg Izzy Rabey yn cynnal sgwrs.
Yn yr ystafell iaith Saesneg bydd y sgwennwyr Faebian Averies a Natasha Kaeda yn cynnal sgwrs.

Mae’r digwyddiad am ddim ond cofrestrwch yma, os gwelwch yn dda: https://forms.gle/k5NN6SwSQKHbTiWi6

Yn fwyaf diweddar mae Mari Izzard wedi ysgrifennu Yr Arallfyd ar gyfer prosiect gosod system sain (audio installation project), Language Landscapes – Tirweddau Iaith.
Cafodd ei henwebu am wobr “stage debut award” am ei drama ddwyieithog, HELA.

Mae Izzy Rabey wedi cyfarwyddo dramau sain i Audible ac i’r prosiect Language Landscapes – Tirweddau Iaith. Mae wedi cyfarwyddo dramau yn y Royal Court ac i National Theatre of Wales.