
Crwydro a Chanfod, gyda Iola Ynyr a Lowri Hedd
CRWYDRO A CHANFOD
Dydd Sadwrn 10.01.2026
Cyfres o deithiau tywys misol ydy Crwydro a Chanfod yn dilyn llif y dwyfroedd trwy Ddyffryn Peris.
Taith mis Ionawr yng nghwmni Iola Ynyr a Lowri Hedd i ffynnon iachau Cegin Arthur.
Estynir croeso cynnes i chi aros am sgwrs ar ddiwedd y daith yn y Caban.
Gofod gofalgar wedi’i hwyluso fydd hwn i adlewyrchu ar ein ‘plentyn mewnol’ a Chreyr Glas Brynrefail, o gofiant creadigol arbennig Iola a enillodd Llyfr y Flwyddyn 2025.
Ffynnon Cegin Arthur
Cyfarfod ym mynedfa Caban, Brynrefail am 12yp