
Cwrs Blasu Digidol: Cychwyn eich Stori
Ymunwch â Sian Hughes i archwilio’r broses greadigol o gychwyn stori. P’un a ydych am ysgrifennu stori fer, nofel, neu gofnod dyddiadur, bydd y gweithdy hwn yn edrych ar dechnegau difyr a hwyliog er mwyn ysgogi creadigrwydd. Byddwch yn gadael y cwrs hwn gyda phecyn cymorth creadigol aml-bwrpas fydd yn eich helpu i ddechrau eich stori, ac yn gymorth i oresgyn melltith y ‘colli awen’, lle bynnag yr ydych arni yn y broses ysgrifennu. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd. Cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn.
Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol.
Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.