Ymunwch â Casia Wiliam, y bardd a’r awdur a enillodd Wobr Tir Na N-Og 2021, i edrych ar y grefft o ysgrifennu i blant. Mewn cyflwyniad dros ginio, bydd cyfle i edrych ar gymeriadau, themâu a’r hyn sy’n gwneud stori blant yn unigryw. Bydd cyfle hefyd i drafod sut i fynd â’ch stori at wasg gyhoeddi. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol.

Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.