Ymunwch â Sioned Erin Hughes, Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, ar gwrs carlam fydd yn edrych ar sut i ddefnyddio eich profiadau personol yn eich gwaith ysgrifenedig. Efallai eich bod yn ‘sgwennu nofel, neu gasgliad o straeon byrion, neu efallai mai dim ond cadw dyddiadur personol sydd yn mynd â’ch bryd. Bydd Erin yn rhannu cyngor ar sut i ysgrifennu o’r galon a bod yn driw i’ch profiadau, a bod yn garedig gyda chi eich hun yn y broses. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd. 

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol. 

Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.