Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas.

Dewch i Dŷ Newydd i ganfod cyfrinach hen, hen grefft. Os ydych chi’n gynganeddwyr hyderus neu erioed wedi llunio’r un llinell, dyma’r cwrs i chi! Drwy rannu cwpledi gwallus a gwych, ac englynion carbwl a champus, gyda’n gilydd cawn ddysgu mwy am Gerdd Dafod – a’i mwynhau. Byddwn yn rhannu’n ddau grŵp ar sail profiad – un i ddechreuwyr pur a’r llall i’r rhai mwy profiadol. Yn ogystal â’r gwersi ar y cyd, bydd cyfle i weithio ar ddarnau unigol. Yna, wedi gweithgareddau’r dydd, cawn ymgynnull fin nos yn llyfrgell chwedlonol Tŷ Newydd a pharatoi tuag at dalwrn mawreddog y noson olaf.

Os yn awyddus i gael blas ar y cwrs hwn o flaen llaw, bydd cwrs undydd Cynganeddu i Leisiau Newydd yn cael ei gynnal yn Nhŷ Newydd ar ddydd Sadwrn 4 Ebrill yng nghwmni Karen Owen a Mererid Hopwood.

 

“Cwrs gwych, erioed wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser.”

– un o feirdd Cwrs Cynganeddu 2016

“Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. Y brif fantais yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a bod yr effaith big brother house cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd.”

– Aneirin Karadog yn dilyn Cwrs Cynganeddu 2015

Mererid Hopwood

Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Mae’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant lle bu’n dysgu er deng mlynedd.

Aneirin Karadog

Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y thema ‘Ffiniau’. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn ddwywaith gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012) ac yna eto gyda’i ail gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016). Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw Clera, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15.