Dyma gwrs i’r rhai sy’n dymuno archwilio’r camau cyntaf o ysgrifennu barddoniaeth. Bydd y cwrs yn cynnwys gweithdai bore a phrynhawn, darlleniadau gyda’r nos a sesiynau lle gall grwpiau llai rhannu gwaith ar y gweill gyda chyd-fyfyrwyr. Bydd y gweithdai’n darparu pynciau a strwythur ar gyfer y cerddi. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer awduron ifanc a dechreuwyr hwyr.