Cyfarfod Aelodau NAWE
Ymunwch â ni yn ein Cyfarfod Aelodau NAWE cyntaf ar-lein yn benodol ar gyfer aelodau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, a gynhelir ddydd Mercher, 24 Ionawr am 18:00 – 19:00 GMT.
Mae’n gyfle gwych i gwrdd yn anffurfiol gyda chyd-aelodau i rannu newyddion am eich gwaith ysgrifennu a darganfod beth mae eraill yn ei wneud. Tra byddwn yn ymdrin â phob agwedd ar waith ysgrifennu creadigol, bydd yr hanner awr olaf yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a’r heriau penodol a wynebir gan aelodau sydd wedi’u lleoli yn yr Alban/Cymru/Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar Zoom gan Heather Richardson, aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr o Belfast. Mae’n rhad ac am ddim i fynychu ond mae archebu’n hanfodol gan fod y nifer yn gyfyngedig.