Mae rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman yn cynnig cyfle i bobl ifanc 15-18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Yn bwysicaf oll, mae’n le iddynt ddarganfod eu llais a’i rannu ag eraill. Rydym yn falch o gynnig hyn yn gyfan gwbl AM DDIM diolch i gefnogaeth gan the Moondance Foundation.

Mae ein sesiynau’n cael eu harwain gan dîm ymroddedig, ac nid ydynt yn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Mae’r sesiynau hefyd yn canolbwyntio ar bethau rydyn ni’n gwybod sy’n bwysig i’n pobl ifanc fel datblygu sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a chydweithio.

Mae ein sesiynau wythnosol yn annog ein pobl ifanc i brofi amrywiaeth o dechnegau a sgiliau ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu dramâu. Ar ddiwedd y tymor hwn bydd gwaith ysgrifennu’r bobl ifanc yn cael ei rannu mewn tymor byr o waith ar-lein a gyflwynir gan actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol.

Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn agored i bawb rhwng 15 a 18 oed. Rydym yn ymwybodol fod pob person ifanc yn datblygu yn eu amser eu hunain. Ein nod yw darparu amgylchedd sy’n eu meithrin, fel y gall ein pobl ifanc wneud y gorau o’u profiadau.

Bydd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn ailddechrau yn Hydref 2022. Bydd y sesiynau bob nos Iau rhwng 7.30yh a 9.30yh yn Theatr y Sherman, gyda’r sesiwn gyntaf ar 15 Medi. E-bostiwch itp@shermantheatre.co.uk am fwy o wybodaeth.