Gweithdy ymarferol gan Clare Potter.
Llyfrgell Ganolog Caerdydd 2.00pm i 5.00pm. AM DDIM (oedolion 18 oed a throsodd)

Ymunwch â Clare am weithdy ymarferol ar gyflwyno’ch gwaith ysgrifenedig i gynulleidfaoedd byw.

Mae Clare yn fardd a pherfformwraig ddwyieithog gydag MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Mississippi. Enillodd Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar yn 2005 a bu ar Brosiect Listening BBC4 gyda’i thad yn olrhain ffynhonnell emosiwn mewn barddoniaeth.

Un o ddigwyddiadau ‘Caerdydd 75’ yn dathlu saith deg pump o flynyddoedd o ysgrifennu creadigol yng Nghaerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.cardiffwritersircle.cymru.

£ Digwyddiad AM DDIM. Tocynnau drwy gyfrwng Eventbrite: https://CWCWORKSHOP10_LIVE.eventbrite.co.uk