
Cylch Llenyddol Llŷn: Lansiad Llwybr Gwyn yr Adar
Cyfarfod Cylch Llenyddol Llŷn mis Chwefror: Lansiad Llwybr Gwyn yr Adar, nofel newydd Alun Jones. Mi fydd Llŷr Titus yn sgwrsio ac yn holi’r awdur a chawn wybod mwy am y nofel ddirgel yma sy’n lyfr y mis gan y Cyngor Llyfrau.
Mwy am y nofel:
Dyma’r drydedd nofel mewn trioleg gan Alun Jones, un o’n prif nofelwyr. Y ddwy nofel gyntaf oedd Lliwiau’r Eira a Taith yr Aderyn. Dilynir hynt yr un cymeriadau yn y Tiroedd Oer yn y cyfnod ar ôl y rhyfela rhwng y Fyddin Lwyd a’r Fyddin Werdd. Dyma nofel hyfryd am wroldeb, gwerth teulu, grym cariad a gobaith ar ôl dioddef.
📍Neuadd Sarn, Sarn Mellteyrn
🗓 7 Chwefror 2025, 7:30pm
Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim, a bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn.
Mi fydd Llên Llŷn yn gwerthu copïau o’r nofel ar y noson, croeso cynnes i bawb!
Dewch yn llu!