Tiwtoriaid / Mererid Hopwood & Karen Owen

Dewch i Dŷ Newydd i ganfod cyfrinach hen, hen grefft. Bydd ein cwrs cynganeddu preswyl poblogaidd yn dychwelyd eleni, gyda phwyslais ar annog lleisiau newydd i droedio i fyd y gynghanedd. Wedi ei anelu at fenywod ac unigolion anneuaidd yn benodol, bydd y cwrs hwn yn creu gofod diogel a chefnogol i feithrin rhwydwaith newydd o gynganeddwyr. Byddwn yn croesawu rhai sy’n newydd sbon i’r gynghanedd, ynghyd â beirdd sydd â pheth dealltwriaeth o’r grefft yn barod. Bydd y grŵp yn cael ei rannu yn ddosbarthiadau gwahanol yn seiliedig ar brofiad, cyn uno eto yn un grŵp ar gyfer trafodaethau a thasgau hwyliog. Drwy rannu cwpledi gwallus a gwych ac englynion carbwl a champus gyda’n gilydd cawn ddysgu mwy am gerdd dafod – a’i mwynhau.

Cwrs mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas.