
Darlith Flynyddol Richard Burton ‘Wales, Nigeria and Cinema: The Berlin Years’
Bydd Branwen Okpako yn trafod sut y bu i’r profiad o wneud y ffilm am ei threftadaeth Gymreig, Searching for Taid (1998), ddiffinio ei hestheteg a’i harddull fel gwneuthrwr ffilmiau. Bydd hefyd yn trafod ei pherthynas â gwaith Richard Burton, gan gyfeirio at y ffilm Cleopatra. ‘Yn y sinema’, noda Okpako, ‘y gynulleidfa yw’r peilot a’r teithiwr’. Bydd ei darlith yn archwilio rôl sinema yng ngoleuni’r dyfyniad yma, yn arbennig y frwydr i ddiffinio’ch hun mewn cymdeithas yr ydych yn anweledig ynddi.
Am ddim ac yn agored i bawb.
Trefnir Darlith Flynyddol Richard Burton gan Ganolfan Richard Burton ynghyd â Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe.