Ymunwch â ni am sesiynau awr o hyd dros amser cinio i glywed gan rai o’n hawduron a’n hwyluswyr ifanc mwyaf disglair. Bydd cyfle i gael eich hysbrydoli, ac i ddysgu mwy am sut i ddatblygu eich crefft a’ch gyrfa fel awdur drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Bydd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru yn hwyluso’r sgyrsiau, ac yn holi’r awduron sut mae cychwyn arni, cyn bwrw ati i fentro ac arloesi ym myd llenyddiaeth Cymru heddiw. Os y bydd amser yn caniatáu, bydd croeso i aelodau’r gynulleidfa yrru cwestiynau i’r awduron. 

Gall awduron o bob oedran fod ar gychwyn eu gyrfa ysgrifennu, ac mae ein digwyddiadau i awduron newydd ar agor i awduron o 18 oed hyd at gant! Mae’r digwyddiad hwn â gogwydd sy’n edrych ar yrfaoedd awduron iau, gan ei fod wedi ei drefnu fel rhan o’n cynnig i enillwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd – ond mae croeso cynnes i bawb.  

 

12.00 pm hanner dydd – 1.00 pm

Dydd Iau 13 Mawrth

Iestyn Tyne a Megan Hunter

Cofrestru ar gyfer y webinar yma

Mae Iestyn Tyne yn fardd ac awdur, ac ef oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn llenyddol Y Stamp. Mae’n olygydd i gyhoeddiadau annibynnol Y Stamp, ac wedi goruchwylio a chymell cyhoeddiadau sawl awdur newydd yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddaf – gan roi llwyfan i leisiau newydd, ymylol yn aml. Iestyn yw trefnydd Cerddi Canol P’nawn, digwyddiad barddol teithiol sy’n rhoi llwyfan i awduron drwy wahoddiad a drwy gynnig gofod meic agored. Gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa, roedd yn gyd-olygydd Welsh (Plural) y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, a chyrhaeddodd ei gasgliad o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol, restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022. Ar y cyd â Leo Drayton, ef yw awdur Robyn (Y Lolfa, 2021), nofel i oedolion ifanc yng nghyfres Y Pump, enillydd categori yng ngwobrau Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Mae wedi ennill Coron (2016) a Chadair (2019) Eisteddfod yr Urdd, ac ef bellach yw Meistr Defod Wobrwyo Seremonïau Llenyddol yr Urdd. Mae wedi tiwtora yn Nhŷ Newydd ac ef yw Bardd cyntaf tref Caernarfon. Cyhoeddir Y Cyfan a fu Rhyngom Ni, ei gyfrol ffeithiol-greadigol sy’n dilyn llwybrau pryddest enwog Prosser Rhys, ‘Atgof’, gan Wasg y Bwthyn fis Mehefin 2025.

Enillodd Megan Angharad Hunter brif wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda’i nofel gyntaf, tu ôl i’r awyr (Y Lolfa, 2020). Yn awdur a sgriptiwr, mae hi wedi gweithio â sawl gwasg fel awdur a hefyd fel golygydd llyfrau plant. Cyhoeddodd ail nofel i bobl ifanc, Cat, a ysgrifennwyd ar y cyd â Maisie Awen fel rhan o gyfres arobryn Y Pump (Y Lolfa, 2021). Cyhoeddwyd Astronot yn yr Atig (Y Lolfa), ei nofel gyntaf i blant yn 2023 – a aeth ymlaen i gyrraedd rhestr fer categori plant a phobl ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac ennill Gwobr Tir na n-Og yn y categori uwchradd. Yn 2024, cyd-olygodd y gyfrol Cymry. Balch. Ifanc. / Young. Welsh. Proud (Gwasg Rily) gyda Llŷr Titus, yn flodeugerdd bersonol a gonest o straeon gan gyfranwyr LHDTA+. Yn dilyn cydlynu ac arwain cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl gyda’r bardd Bethany Handley yn Nhŷ Newydd, yn 2025 fe gyhoeddwyd Beyond/Tu Hwnt –  Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl (Lucent Dreaming), dan olygyddiaeth y ddwy, ynghyd â’r awdur Sioned Erin Hughes. Yn 2023 fe cafodd Megan gyfle gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yn India cyn trafod hygyrchedd yn y diwydiant cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain. Enillodd Megan le ar raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2023, a rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2024. Y themâu amlycaf yn ei gwaith yw iechyd meddwl, a/Anabledd a rhywioldeb ac mae hi hefyd yn gwirfoddoli’n achlysurol gyda Llamau, elusen sy’n darparu llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd.