Darlith Rhys Davies yn Llyfrgell Glowyr De Cymru

‘Dathlu Hanner can Mlynedd o Lyfrgell Glowyr De Cymru gyda Public Service Broadcasting Frontman, J. Willgoose, Ysw.’

Ymchwilio i hanes Llyfrgell Glowyr De Cymru: adrodd hanes y meysydd glo drwy gerddoriaeth ac atgofion.

J. Willgoose, Ysw. yw sefydlydd a phrif gyfansoddwr y band o Lundain, Public Service Broadcasting. Ers rhyddhau ei gasgliad cyntaf o ganeuon, The War Room, yn 2012, mae’r band wedi defnyddio deunydd archifol, recordiadau maes, deunydd a llenyddiaeth wreiddiol i ailadrodd straeon o’n gorffennol, gan gynnwys pynciau mor amrywiol â’r ras i’r gofod, Meysydd Glo De Cymru a hanes Berlin fel hyb creadigol. Gweithiodd Willgoose yn helaeth gyda Llyfrgell Glowyr De Cymru ar gyfer rhyddhau albwm PBS, ‘Every Valley’ yn 2017 a gyfunodd deunydd BFI, casgliadau Llyfrgell Glowyr De Cymru a barddoniaeth i gofnodi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r gymuned diwydiant glo.