Mae Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres newydd o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl greadigol i ymchwilio thema benodol yn ddyfnach mewn gweithdai grwpiau bach gyda hwylusydd profiadol. Gyda chymhorthdal ​​gan Gaerdydd Creadigol, mae holl ddigwyddiadau Ystafelloedd Dosbarth yn £10 yn unig i fynychu.

Bydd ein Hystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol gyntaf o 2024 ar y thema ‘Dechrau eich cofiant’ a gyflwynir gan yr awdur Tiffany Murray.

Ydych chi eisiau ysgrifennu eich stori, neu stori deuluol mewn rhyw ffurf? Yna mae’r cwrs byr unigryw hwn ar eich cyfer chi. Dan arweiniad yr awdur Tiffany Murray, bydd y diwrnod yn seiliedig ar weithdai hwyliog ac agored, ac mae ar gyfer awduron o bob lefel. Os ydych chi eisiau ysgrifennu cofiant rhaid i chi ddefnyddio ffuglen i ddal sylw darllenydd, ac os ydych chi am ysgrifennu ffuglen yn seiliedig ar brofiad bywyd go iawn raid i chi archwilio’r straeon gan ddefnyddio’r sgiliau tebyg. Bydd Tiffany yn eich helpu i gael at eich straeon, fel y gallwch chi eu troi’n naratif. P’un a ydych am ysgrifennu i’w gyhoeddi neu i gael y straeon hyn i lawr ar bapur, bydd y diwrnod hwn yn agor eich creadigrwydd.

Cyhoeddir cofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars gan Little Brown yn 2024. Mae ei nofelau Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi derbyn Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae Tiffany wedi bod yn Gymrawd Ffuglen Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae ei chyfres, ‘Hulda’s Café’ ar gael ar BBC Radio 4.