Yn 2016 enillodd Bob Dylan Wobr Nobel am lenyddiaeth, a phrofi fod y ffin rhwng geiriau caneuon a barddoniaeth yn un denau – os ffin o gwbl. Nid dyma’r gwir am eiriau pob cân wrth gwrs, a byddwn yn trafod yr hyn sy’n gwneud geiriau da ar y cwrs hwn cyn rhoi tro ar gyfansoddi rhai ein hunain.

P’un ai eich bod yn awyddus i gyfansoddi geiriau caneuon ar gyfer y siartiau, i’w canu mewn noson meic agored neu yn syml ar gyfer eich llygaid a’ch clustiau chi eich hun a neb arall, bydd y cwrs undydd hwn yn cynnig arweiniad heb ei ail gan un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.

Dyma gwrs addas ar gyfer crefftwyr geiriau a cherddorion newydd a phrofiadol. Er yn gwrs cyfansoddi caneuon, y geiriau fydd yn cael eu trin a’u trafod y tro hwn yn hytrach na’u halawon. Byddwch yn siŵr o adael gydag egin cân, i weithio arni ar ôl y cwrs. A chofiwch fod dyddiad cau Cân i Gymru ddim tan ddiwedd Ionawr…!

Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng 11.00 am – 5.00 pm. Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs.

 

Tiwtor

Lleuwen Steffan

Mae Lleuwen Steffan yn un artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru. Yn gantores, ac yn gyfansoddwraig aml-ieithog sydd bellach wedi magu gwreiddiau draw yn Llydaw, mae wedi ysgrifennu a rhyddhau sawl record o’i chaneuon. Enillodd ei chân Bendigeidfran o’i albwm ddiweddaraf Gwn Glân Beibl Budr wobr cân wreiddiol orau Gwobrau Gwerin Cymru 2019. Yn ogystal â caneuon gwreiddiol, mae Lleuwen wedi rhoi ail fywyd i sawl emyn a chân gwerin draddodiadol.