Mae Y Lab yn archwilio’ r ffyrdd gorau o gynnwys pobl yn y penderfyniadau sy’ n effeithio arnyn nhw ac eisiau gwybod os a sut hoffech fod yn rhan o’r broses.

Mae nifer o bolisïau ledled Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd gallu pobl i gymryd rhan mewn prosesau a phenderfyniadau gwella gwasanaethau’n lleol, ond mae llawer o sefydliadau’ n cael trafferth i ymgysylltu â phobl fel mater o er mwyn gwella gwasanaethau a dyrannu arian.

Mae Y Lab wedi bod yn cynnal ymchwil i archwilio rhai o’ r dulliau mwyaf effeithiol o gynnwys pobl wrth wraidd penderfyniadau sy’n gallu cael effaith gwirioneddol ar y canlyniadau. Yn y sesiwn hwn, hoffwn rannu ein canfyddiadau a thrafod sut y gallai’ r rhain effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

A ddylid cael cyllidebau cyfranogol ar draws pob cyngor? A fyddech chi’n cymryd rhan mewn rheithgor dinasyddion i ddylanwadu ar bolisi? Pa fath o bynciau ydych chi’ n meddwl y dylai’ r cyhoedd eu harchwilio? Beth yw’ r peryglon o gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau?

Dyma’ r math o gwestiynau rydym am eu harchwilio, felly os oes gennych unrhyw farn ar hyn neu os hoffech gael gwybod mwy am ddemocratiaeth ystyriol, yna cofrestrwch a dewch draw i’ r digwyddiad.

Os hoffech unrhyw wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad hwn neu am unrhyw ran o’ r gwaith yn Y Lab cysylltwch ag Emyr Williams-Williamse78@cardiff.ac.uk