
Digwyddiad Mis Treftadaeth De Asia
Mae Mis Treftadaeth De Asia yn digwydd bob blwyddyn rhwng 18 Gorffennaf a 17 Awst, ar ben-blwydd y Rhaniad. Mae’n coffáu, yn anrhydeddu ac yn dathlu hanes a diwylliant De Asia, yn ogystal â diwylliannau a gwaddol unigryw y gwledydd sy’n rhan o Dde Asia. ‘Straeon i’w Hadrodd’ yw’r thema eleni, ac rydyn ni’n dod ag awduron at ei gilydd i dynnu sylw at bŵer adrodd straeon ar gyfer hanesion De Asia o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Dewch i Chapter i ddathlu Mis Treftadaeth De Asia 2023 gyda ni mewn digwyddiad arbennig gyda chwe awdur ac artist gair llafar o’r gymuned De Asiaidd. Yr awduron yw: Durre Shahwar, Nasia Sarwar-Skuse, Taz Rahman, Hammad Rind, gyda mwy i’w cadarnhau. Durre Shahwar a Jafar Iqbal fydd yn cyflwyno’r digwyddiad, a bydd y cyhoeddwr Lucent Dreaming yn bresennol.
Bydd aelodau De Asiaidd o’r gynulleidfa hefyd yn cael eu gwahodd i rannu gwaith, hanesion, a beth bynnag maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu ar y dydd. Dyma ddechrau rhywbeth mwy i nodi diwylliant De Asia yng Nghymru, a bydden ni’n falch iawn o’ch cael chi yno ar ddechrau’r daith.