I feirdd ymroddedig y mae’r dosbarth meistr hwn, a’r rheini â’u bryd ar ddatblygu eu crefft ymhellach. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdy grŵp bob bore i sbarduno cerddi newydd, amser i ysgrifennu’n unigol, a phrynhawniau rhydd i ddarllen neu chwilio am ysbrydoliaeth yn nhirwedd prydferth Tŷ Newydd a’r ardal. Byddwch yn mwynhau dwy noson o ddarlleniadau barddoniaeth: un gan y tiwtoriaid, a’r llall gan ddarllenydd gwadd a bydd y cwrs yn dod i ben gyda creu blodeugerdd o waith y beirdd a’r tiwtoriaid, a dathliad yn y llyfrgell fin nos o’r gwaith fydd wedi ei gyfansoddi. Cwrs fydd hwn i herio ac ysbrydoli awduron sy’n awyddus i ddatblygu arddull, telynegrwydd a phosibiliadau dychmygol eu barddoniaeth.

Er mwyn i bawb elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, caiff 14 awdur eu dethol ar gyfer y Dosbarth Meistr hwn yn seiliedig ar broses ymgeisio fydd yn gofyn am enghraifft o’u gwaith.

Dyma sut i wneud cais am le ar y Dosbarth Meistr:

  1. Gyrrwch 6 cerdd dros ebost at tynewydd@llenyddiaethcymru.org erbyn dydd Gwener 13 Mawrth 2020. Gwnewch yn siŵr bod eich enw a manylion cyswllt ar y gwaith a’i fod wedi ei farcio gyda “Cais Dosbarth Meistr y Gwanwyn”. Os na fedrwch yrru eich gwaith dros ebost, cewch ei yrru drwy’r post at Dŷ Newydd.
  2. Os yn berthnasol, gyrrwch unrhyw fanylion ynglŷn â’ch cefndir cyhoeddi.
  3. Byddwn yn rhoi gwybod ganol Ebrill os ydych chi wedi cael eich dewis. Os y cewch chi gynnig lle ar y Dosbarth Meistr, byddwn yn gofyn yn garedig i chi dalu eich blaendal o £100 i sicrhau eich lle.

Ni fydd cerddi yn cael ei dychwelyd atoch. Bydd y tiwtoriaid, Gillian Clarke a Michael Woods, yn dewis y cyfranogwyr ar sail y cais a’r cerddi, a bydd eu penderfyniad yn derfynol. Os ydych yn gwneud cais am ysgoloriaeth i helpu â’r gost, gyrrwch ffurflen ysgoloriaeth i mewn gyda eich cerddi (ffurflen ar gael ar eich cais).