Cwrs yw hwn i egin feirdd ac awduron rhyddiaith rhwng 18 a 35 oed. Efallai eich bod chi’n gweithio ar gasgliad o farddoniaeth, nofel, casgliad o straeon byrion, gwaith ffeithiol neu’n arbrofi mewn sawl ffurf; y naill ffordd neu’r llall dyma gyfle i gael arweiniad amhrisiadwy ar eich taith greadigol. O dan adain awduron proffesiynol a siaradwyr gwadd o’r diwydiannau cyhoeddi a’r diwydiannau creadigol, byddwn yn canolbwyntio ar y broses ysgrifennu, gan gynnwys ailddrafftio a golygu. Rhan ganolog o’r profiad fydd cael cyngor am gyhoeddi, perfformio a chyhoeddi eich gwaith.

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp a sesiynau unigol gyda’r tiwtoriaid, a bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cymorthfeydd ar gyfleoedd datblygu i awduron yn ystod yr wythnos. Bydd y cwrs yn llawn anogaeth ac yn rhoi hwb i grŵp o awduron ifanc, ac yn gyfle i ddysgu gan y tiwtoriaid a dysgu gan eich gilydd. Bydd digonedd o amser rhydd hefyd i greu ac i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau eraill fel cymdeithasu, mynd am dro a hyd yn oed nofio yn y môr.

Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Wales Arts Review.

I ddarllen cofnodion blog gan awduron fu ar ein cyrsiau Egin Awduron blaenorol, ewch i ymweld â’r adran blogiau.