Bydd digwyddiad rhannu Ein Llais eleni yn noswaith ysbrydoledig o greadigrwydd a chysylltiad! Yno, bydd Aliyy Azad – derbynnydd Bwrsari Ein Llais – a’r awdur Krystal S. Lowe yn rhannu detholiad o‘u gwaith-ar-waith, gan gynnig cipolwg i mewn i’w teithiau creadigol.

Dewch i wrando ar y straeon yng nghwmni pobl eraill, a mwynhau dishgled a danteithion melys.

Cynhelir digwyddiad rhannu Ein Llais 2025 ddydd Gwener, 28 Mawrth rhwng 6:00 a 7:30yh yn Theatr Sherman.

Ebostiwch literary@shermantheatre.co.uk i anfon RSVP nawr!

https://krystalslowe.com/our-voice-sharing-2025