Lansiad Llyfr – Emma Musty – The Bones of Barry Knight

Mewn gwersyll ffoaduriaid anghysbell, mae llawer o fywydau gwahanol yn gwrthdaro. Mae plentyn sy’n hoffi dewiniaid a seren roc sy’n heneiddio yn rhannu eu tynged gyda chriw o ymwelwyr amrywiol pan ymosodir ar y gwersyll.
Blynyddoedd yn ddiweddarach, maent yn ffeindio ffordd i adrodd eu straeon.
Mae The Bones of Barry Knight yn stori am alar a gwydnwch yn wyneb anfanteision llethol ac yn gofyn sut y gallwn ofalu am ein gilydd yn well ar raddfa fyd-eang.
“Yn gwbl gyfoes a diysgog” – Katherine Stansfield
Bywgraffiad
Dechreuodd Emma Musty ei gyrfa ysgrifennu yng Nghymru a chwblhaodd ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi bellach yn rhannu ei hamser rhwng y DU a gwlad Groeg lle mae hi’n ysgrifenwraig ac yn olygydd gyda’r Are You Syrious? News Digest, sy’n croniclo newyddion ynglyn â’r sefyllfa ffoaduriaid yn Ewrop, ac yn aelod tymor hir o Ganolfan Gymuned Khora sy’n gweithio gyda grwpiau ar y cyrion yn Athen. Mae hi hefyd yn ohebydd Hawliau Dynol lawrydd a fu’n gweithio i Hawliau Ffoaduriaid Ewrop. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Emma, The Exile and The Mapmaker, gan Legend Press ym mis Mehefin 2021.