Dyma gyfle i gael dianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol – i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu ddim ond darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion, yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd, yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.

 

 

Tiwtor

Julia Forster

Mae Julia Forster wedi ysgrifennu dau lyfr; un ffeithiol o’r enw Muses: Revealing the Nature of Inspiration (Kamera Books, 2007) a nofel wedi ei gosod yn 1988, What a Way to Go (Atlantic Books, 2017). Mae Julia wedi gweithio yn y byd cyhoeddi a datblygu awduron ers ugain mlynedd ac mae ar hyn o bryd yn rhedeg adran farchnata a chyhoeddusrwydd y cylchgrawn llenyddol New Welsh Reviewlle mae hefyd yn cydlynu’r Gwobrau New Welsh Writing. Mae’n ddarllenydd ac yn fentor i’r Literary Consultancy ac mae’n gweithio i Ruth Killick Publicity. Yn llawrydd, mae’n ymgymryd â gwaith cysylltiadau cyhoeddus i gyhoeddwyr annibynnol ac mae’n arwain gweithdai datblygu awduron. Mae Julia newydd orffen cyfnod o chwe mlynedd ar banel ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru lle bu’n helpu i ddyfarnu ysgoloriaethau i awduron newydd a phrofiadol. Yn 2016, dyfarnwyd iddi y K Blundell Trust Award gan y Society of Authors i ysgrifennu ei trydydd llyfr.
www.julia-forster.com
@WriterForster