Tiwtoriaid / Mona Arshi & Laura Karadog

Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.

Yn ystod yr encil hwn, bydd Laura Karadog, sy’n athrawes yoga broffesiynol, yn y ganolfan drwy’r wythnos i gynnal sesiynau yoga yn gynnar yn y bore (7.00 am – 8.30 am)  er mwyn deffro’r corff a’r meddwl. Bydd y yoga’n addas i bawb ac yn cyd-fynd ag anghenion pob unigolyn. Ar ôl cinio yn y prynhawn (2.00 pm – 3.30 pm), bydd y bardd Mona Arshi yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol er mwyn ysgogi syniadau newydd a rhoi ffresni i’r gwaith sydd gennych ar y gweill.

Bydd cyfle i bob cyfranogwr archebu sesiwn unigol gyda’r ddau diwtor: i edrych yn fanylach ar eich perthynas gyda yoga yng nghwmni Laura; ac i drafod eich gwaith ysgrifennu a’ch datblygiad gyrfaol fel awdur gyda Mona.

Nos Fawrth, bydd y ddwy yn cyd-gynnal sesiwn o’r enw ‘Yin a Barddoniaeth’ fydd yn plethu cerddi ac ymddaliadau gwahanol. Nos Iau, bydd croeso i chi ymuno mewn noson gymdeithasol i rannu eich gwaith.

Mae’r holl sesiynau yn ddewisol; dewch â mat yoga gyda chi neu holwch ni o flaen llaw am fatiau sbâr. Saesneg fydd prif iaith y gweithdai, ond mae Laura yn siarad Cymraeg a sawl iaith arall, a bydd yn hapus i sgwrsio â chi mewn iaith o’ch dewis chi.

Mwy o wybodaeth am y sesiynau

Mae ymarfer yoga yn tynnu’r haenau o deimladau ac emosiynau bob yn un gan arddangos yr hanfod sydd ym mêr esgyrn pob un ohonom. O’r hanfod hwn mae creadigrwydd yn dod. Rydym yn aml yn siarad am yr awen, yr ysbrydoliaeth sy’n bwydo ein mynegiant ni, onid o’n hanfod ni ein hunain y daw? Bydd yr encil hwn yn plethu yoga a barddoniaeth ac yn eich galluogi i gysylltu â’r ffynhonnell greadigol oddi mewn ac o’m cwmpas.

Gweithdai Yoga:

Bydd y sesiynau bore yn canolbwyntio ar gryfhau eich corff a’ch meddwl i’ch paratoi am ddiwrnod o waith creadigol. Bydd dosbarthiadau yn gyfuniad o asana (symudiadau ac ymddaliadau), pranayama (gweithio gydag anadl a llif egni), meddwlgarwch ac ymlacio.

Gweithdai Barddoniaeth:

Ymunwch â ni am weithdai barddoniaeth lle y byddwn yn cymryd amser i archwilio’r barddonol. Byddwn yn edrych ar allu cerddi i’n diwallu a’n cyfareddu, ac yn edrych ar sut y gall cerddi fod yn gartref i emosiynau a synfyfyrdodau. Yn ogystal ag archwilio cerddi yn ofalus, byddwn yn cael cyfle i greu cerddi ein hunain yn y gweithdai.