Drwy weithdai a thrafodaethau grŵp, bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut y gellir troi ffeministiaeth mewn gwahanol ffyrdd yn ysgrifennu creadigol ac yn llenyddiaeth. Byddwn yn edrych ar elfennau ffeministaidd mewn gweithiau awduron fel Zoë Brigley, Fiona Benson, Angela Carter ac Amber Sparks, ymhlith eraill. Yn ystod y cwrs, byddwn hefyd yn astudio menywod mewn straeon tylwyth teg, chwedlau, hanes a’n bywydau’n hunain, gan drafod beth yw ystyr ffeministiaeth i ni awduron. Mae croeso i’r rheini sy’n creu barddoniaeth, rhyddiaith, cofiannau a mwy.