Fforwm ar-lein – Cysur y Sêr
Mae’r drafodaeth fforwm ar-lein hon yn rhannu arfer da am bynciau allweddol o ddiddordeb mewn chwedleua heddiw. Mae’r sesiwn hon yn cynnwys enghreifftiau o Gymru, gan gynnwys Eleanor Shaw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig People Speak Up elusen Gelfyddyd ac Iechyd yn Llanelli a Chaerfyrddin a Ceri J Phillips sy’n gweithio fel chwedleuwr yn rhaglen PSU, ac sydd hefyd yn un o’r 10 chwedleuwr sy’n rhan o brosiect Cysur y Sêr Adverse Camber. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a thrafod mewn grwpiau llai.
Mae Cysur y Sêr yn brosiect Cymraeg a dwyieithog sy’n ymwneud â datblygu storïau yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol llawn effaith i genedlaethau’r dyfodol, gan arwain at berfformiadau taith Cysur y Sêr ar draws Cymru ym Mawrth-Ebrill 2026.
Cefnogir gan Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Llenyddiaeth Cymru, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.