
O Homer i Hip Hop
Wrth i ni ddychwelyd ar ôl COVID, dewch i gwrdd â’r adfywiadau artistig sydd wedi ail-wneud y byd o’r gwaelod i fyny.
Mae Pencampwr y National Poetry Slam, Pete “the Temp” Bearder, yn dod â’r symudiadau barddonol sydd wedi llunio hanes yn fyw. Darganfyddwch pam roedd seiri geiriau yn cael eu pardduo, eu hofni a’u parchu drwy bob oes, o’r cantorion baled a’r beirdd Beat, i eiconau dub, pync a hip hop. Mae’r gair llafar bob amser wedi bod yn arf i adfywio diwylliant yn uniongyrchol. Mae’r sioe hon yn dod â hanes yn fyw, ac yn gofyn beth allwn ni ei wneud ag ef nesaf.
Mae Pete yn fardd llafar, awdur a chomig sydd wedi ennill gwobrau. Mae ei waith wedi cael sylw ar BBC Radio 4, The World Service, a Newsnight. Mae’r sioe hon yn dilyn ei lyfr newydd arloesol Stage Invasion: Poetry & the Spoken Word Renaissance.